Ein hardaloedd gwarchodedig amhrisiadwy

Dewch i ddarganfod trysorau naturiol y Deyrnas Unedig, y rhywogaethau sy’n eu galw’n gartref, a pham mae angen eu gwarchod.

Beach including a woodland with a path running through it and salt marsh, RSPB Arne

Beth yw ardal warchodedig?

O goetiroedd hynafol prin i fawndiroedd enfawr, ardaloedd gwarchodedig yw ein trysorau naturiol a’n hased mwyaf. Gyda’i gilydd, maen nhw’n gweithio’n galed i fynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt gwerthfawr.

Mae safleoedd pwysicaf y Deyrnas Unedig yn elwa ar fesurau gwarchod cyfreithiol arbennig, gan gydnabod eu gwerth a’u bregusrwydd, a cheisio eu diogelu rhag niwed a chamfanteisio. Roedd pobl sy’n caru byd natur – pobl fel chi – wedi brwydro dros y mesurau hyn a’u sicrhau yn yr 1970au, ac maen nhw’n parhau i’w hamddiffyn hyd heddiw.

Mae ardaloedd gwarchodedigyn helpu i ddiogeluein dyfodol yn wyneb hinsawdd sy’n newid
Mae ardaloedd gwarchodedigyn hafan i fywyd gwylltfel y Pâl a’r Durtur
Mae ardaloedd gwarchodedigyn helpu i greulleoedd sy’n fuddiol i’n llesiant
Dros 7500 o ardaloedd gwarchodedig ledled y DU
Pam mae ardaloedd gwarchodedig mor bwysig?

Mae ardaloedd gwarchodedig yn bwysig gan eu bod yn gwarchod ac yn gwella ein cynefinoedd a’n tirweddau amhrisiadwy. Mae hyn yn eu gwneud yn hafan i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr, fel y Pâl a’r Durtur.

Mae’r ardaloedd arbennig hyn yn cynnig manteision amhrisiadwy i bobl hefyd. Er enghraifft, mae mawnogydd yn storio carbon ac yn hidlo dŵr, mae gwlyptiroedd arfordirol yn amddiffynfa naturiol effeithiol rhag llifogydd, ac maen nhw i gyd yn helpu i ddiogelu ein dyfodol yn wyneb hinsawdd sy’n newid. Mae’r mannau hyn hefyd yn hynod o fuddiol i’ch llesiant!

Ble mae fy ardal warchodedig agosaf?

Does dim rhaid i chi fynd yn bell! Mae ein trysorau naturiol o’n cwmpas ym mhob man.

Mae’n amhosib methu rhai ohonyn nhw, fel clogwyni môr ysgubol Cymru a rhostiroedd tonnog Lloegr. Mae eraill wedi’u cuddio o dan ein traed neu’r tonnau, fel mawnogydd gwerthfawr yr Alban a lochau gloyw Gogledd Iwerddon. Mae pob un yn achubiaeth hanfodol i fyd natur ac i bobl.

Yn y DU, mae’r rhan fwyaf o’n hardaloedd gwarchodedig yn eiddo preifat. Fodd bynnag, gallwch brofi llawer ohonynt drosoch eich hun, gyda dros 170 o warchodfeydd natur yr RSPB yn barod i chi eu hymweld

Mathau o ardaloedd gwarchodedig:

Byddwch yn gweld bod ein hardaloedd gwarchodedig wedi’u categoreiddio gyda’r labeli canlynol

SPAs – Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig

Ardaloedd sy’n cael eu cydnabod am eu pwysigrwydd rhyngwladol i rywogaethau adar prin ac agored i niwed.

Beth yw’r prif fygythiadau i’n hardaloedd gwarchodedig?

Mae ein trysorau naturiol dan bwysau. Mae angen i’n llywodraethau gryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer ardaloedd gwarchodedig presennol a dynodi safleoedd newydd ar frys.

Ond y gwrthwyneb sy’n digwydd. Er enghraifft, yn 2025, pasiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei Deddf Cynllunio a Seilwaith, a oedd yn gwanhau amddiffyniadau cyfreithiol rhai o’n mannau mwyaf gwerthfawr. Roedd y Ddeddf yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu amhriodol ac, o ganlyniad, o ddinistrio cynefinoedd gwerthfawr. Yn y cyfamser, mae pysgota anghynaliadwy yn dal i fygwth ardaloedd morol gwarchodedig. Ac mae diffyg cyllid a chyngor gan y llywodraeth yn golygu bod rhai ardaloedd gwarchodedig yn cael eu camreoli neu eu gadael i ddirywio.

Dyna pam mae’n bryd dod i adnabod eich trysorau naturiol agosaf a gofalu amdanyn nhw. Drwy wneud hynny, gall eich cymuned uno a helpu i gynnal eu mesurau diogelu ac amddiffyn y bywyd gwyllt, y cynefinoedd a’r manteision gwerthfawr i bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Sut ydyn ni’n gwarchod y trysorau naturiol hyn?

Yn ogystal â chamau gweithredu cadwraeth ar lawr gwlad, yn yr RSPB rydyn ni’n ymgyrchu dros ein hardaloedd gwarchodedig ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Yn unol â’r wyddoniaeth cadwraeth ddiweddaraf, rydyn ni’n pwyso am ddiogelu, ehangu ac adfer ein cynefinoedd gwerthfawr i helpu i sicrhau mwy o gynefinoedd a thirweddau, a bod y rheini’n fwy o faint, yn well ac yn fwy cydgysylltiedig.

Dim ond drwy gefnogaeth ein haelodau ardderchog, ein rhoddwyr hael a’n gwirfoddolwyr gwych sy’n ymuno â ni i weithredu dros fyd natur y mae hyn yn bosib.

Sut gallwch chi helpu

Gweithredwch

Cofrestrwch ar gyfer ein negeseuon ebost ymgyrchu, gan gynnwys ein cylchlythyr Action for Nature bob pythefnos, ac ymunwch â chymuned o bobl sy’n brwydro i warchod ein trysorau naturiol.

Ein gwaith mewn ardaloedd gwarchodedig: pedwar safle dan sylw

O ran ein gwarchodfeydd natur a thu hwnt, rydyn ni’n ymdrechu i warchod ac adfer llawer o’n trysorau naturiol drwy ymchwil wyddonol, rheoli cynefinoedd ar lawr gwlad, ymgyrchu ac eiriolaeth. Felly, rydyn ni’n gweithio mewn llawer o dirweddau gwerthfawr ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys y pedwar safle allweddol canlynol:

Razorbill adult on sea cliffs at RSPB South Stack Nature Reserve
Arfordir Ynys Gybi (Ynys Môn, Cymru)

Rydyn ni’n gweithio i ddiogelu ardaloedd gwarchodedig yn RSPB Ynys Lawd, tir bridio hanfodol i filoedd o adar môr agored i niwed fel Gwalch y Penwaig a’r Pâl.

Heather moorland at sunset with dramatic sun rays in the background, RSPB Arne
Purbeck Heaths (Dorset, Lloegr)

Rydyn ni’n rheoli rhannau o Purbeck Heaths i greu’r cynefin delfrydol ar gyfer planhigion ac anifeiliaid prin, gan gynnwys y Ganrhi Felen Eiddil a’r chwech o ymlusgiaid brodorol y Deyrnas Unedig.

Walking along boardwalk into woodland, RSPB Loch Lomond
Loch Lomond (Gorllewin Swydd Dunbarton, Yr Alban)

Yn nhirwedd gyfoethog Loch Lomond yn yr Alban, rydyn ni’n gofalu am goetiroedd derw hynafol a rhywogaethau trawiadol fel y Wiwer Goch a’r Tingoch.

Curlew, perched on a rock in water
Lower Lough Erne (Swydd Fermanagh, Gogledd Iwerddon)

Rydyn ni’n gwarchod bywyd gwyllt a mannau gwyllt ar draws casgliad o ynysoedd ar y llyn dŵr croyw hwn, cartref i’r Gylfinir, sydd ar y rhestr goch, a’r Fôr-wennol Bigddu sy’n bridio.

Gweithredwch dros fyd natur yn syth o’ch ebost

Cofrestrwch ar gyfer ein negeseuon ebost ymgyrchu ac ymunwch â chymuned o bobl sy’n brwydro i warchod ein trysorau naturiol. Byddwch yn dysgu mwy am drysorau naturiol, y bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu a’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi helpu i’w gwarchod.

Byddwch hefyd yn cael ein cylchlythyr Action for Nature bob pythefnos, gyda ffyrdd o gefnogi bywyd gwyllt yn eich cymuned, newyddion am fyd natur, ffeithiau a mwy:

  • Newyddion am ymgyrchoedd pwysig a ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
  • Diweddariadau ar gynnydd, er mwyn i chi allu gweld sut rydych chi’n helpu i sbarduno newid.
  • Byddwn yn rhoi gwybod am yr ymgyrchoedd, y digwyddiadau a’r cyfleoedd sydd fwyaf perthnasol i ble rydych chi’n byw.

Sylwer: rydym yn darparu gwybodaeth yn Gymraeg lle bynnag y gallwn. Fodd bynnag, yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn bosibl. O ganlyniad, mae ein cylchlythyr pob pythefnos, *Action for Nature*, yn cael ei ddarparu yn Saesneg yn unig.