Mae cynghorwyr etholedig yn gweithredu fel cyswllt rhwng y cyhoedd a’r cyngor. Maen nhw’n cynrychioli eich barn ar faterion sy’n bwysig i chi, megis cynigion datblygu,, a gallant ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio drwy gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio a siarad mewn pwyllgorau cynllunio (mae manylion cyswllt eich cynghorwyr lleol ar gael yma). Felly, mae’n fuddiol iawn ennyn eu diddordeb yn eich ymgyrch.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr etholedig lleol sy’n cynrychioli eich barn ar lefel genedlaethol. Yn Lloegr, eich AS (Aelod Seneddol), yng Nghymru eich AS (Aelod o Senedd Cymru), yn yr Alban eich ASA (Aelod o Senedd yr Alban) ac yng Ngogledd Iwerddon eich MLA (Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol).
Edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gysylltu â’ch cynrychiolydd lleol (rhan o’n hadnoddau ‘Gweithredu dros natur’ ehangach) i gael cyngor ar ysgrifennu at neu e-bostio unrhyw un o’ch cynrychiolwyr etholedig a defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.
Gallwch ganfod pwy yw eich cynrychiolwyr etholedig ac ysgrifennu atynt gan ddefnyddio gwefannau defnyddiol fel WriteToThem a TheyWorkforYou.