Etholiadau'r Senedd 2026

Does gan fyd natur ddim pleidlais - ond mae gennych chi. Dyma eich cyfle i godi llais dros fywyd gwyllt yng Nghymru.

Lighthouse at South Stack

Cymru: gwlad llawn harddwch eithriadol

O’r mynyddoedd garw i’r arfordiroedd gwyllt, mae Cymru yn lle arbennig. Ond mae byd natur mewn argyfwng. Ac mae natur angen i chi weithredu. Mae angen i ni roi llais i fyd natur Cymru yn etholiad nesaf y Senedd ar 7 Mai 2026. 

Mae bywyd gwyllt Cymru wedigostwng 20%ar gyfartaledd ers 1994.
Os na wnawn ni weithredu, gall y Gylfinir ddiflannu fel rhywogaeth sy’n bridio yng Nghymruo fewn wyth mlynedd.
Mae un o bob chwe rhywogaethmewn perygl o ddiflannuo Gymru.

Blaenoriaethau RSPB Cymru ar gyfer Natur yng Nghymru

Rydym ni angen i fyd natur adfer gymaint â’n bywyd gwyllt. Byd natur sy’n rhoi aer glân i ni anadlu, dŵr i ni ei yfed, a phridd iach i dyfu bwyd maethlon. Yn ein maniffesto, Blaenoriaethau RSPB Cymru ar gyfer Natur yng Nghymru, rydym ni’n nodi’r hyn rydym ni’n feddwl sydd angen ei wneud er mwyn gwarchod ein cynefinoedd gwerthfawr a sbarduno adferiad byd natur ar raddfa fawr. 

The view of the cliffs at Ramsey Island.
Ramsey Island
Ymunwch â ni ar gyfer Cymru Gyda’n Gilydd ar 22 Ebrill

Cofrestrwch i gymryd rhan yn Cymru Gyda’n Gilydd ac ymunwch ag RSPB Cymru, Climate Cymru, a’n partneriaid.  Rydym ni am ddod at ein gilydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd i godi llais dros fyd natur. 

Gallwch gofrestru yma.

Beth yw blaenoriaethau pob plaid ar gyfer natur?

Mae byd natur mewn argyfwng, ond mae gobaith bob amser. Mae Cymru wedi ymrwymo i atal colli bywyd gwyllt a diogelu a rheoli 30% o’n tir a’n moroedd ar gyfer natur erbyn 2030. Dyna ddiwedd tymor y Senedd hon. Llywodraeth nesaf Cymru fydd yn penderfynu a ydym am gyrraedd y targedau hyn. 

Ar 12 Mawrth fe wnaethom ni ofyn y cwestiwn hwn i'r pleidiau gwleidyddol a restrir isod, gan ofyn iddynt ymateb gyda 500 gair yn Gymraeg ac yn Saesneg erbyn dydd Gwener 30 Ebrill.  

Mae Cymru wedi ymrwymo i gyflawni’r nod rhyngwladol o atal a gwrthdroi colled bioamrywiaeth erbyn 2030. Bydd angen gweithredu ar frys yn nhymor nesaf y Senedd i gyflawni hyn. Beth fyddwch chi’n ei wneud er mwyn rhoi natur yng Nghymru ar lwybr at adferiad?    

Newport, South Wales
Does gan fyd natur ddim pleidlais. Felly defnyddiwch eich pleidlais chi

Rydych chi’n gwneud rhywbeth arbennig wrth gofrestru i bleidleisio. Cofrestrwch erbyn 20 Ebrill 2026. 

Pleidleisio am y tro cyntaf?

Mae pobl ifanc 16 oed a hŷn yn gallu pleidleisio yng Nghymru. Os ydych chi’n ansicr dros bwy i bleidleisio, beth sy’n digwydd ar y diwrnod a sut gallwch chi wneud gwahaniaeth, beth am ddarllen: 

Lapwing
Croeso i 'ch Pleidlais - Podlediad Bocs Democratiaeth
A view of Lake Vyrnwy and the stone wall, surrounded by trees and a blue sky with wispy white clouds.
Lake Vyrnwy
Newidiadau i etholiadau’r Senedd yn 2026

Bydd rhai newidiadau yn dod i rym o'r etholiad ar 7 Mai 2026. Mae hyn yn cynnwys etholaethau newydd yng Nghymru, newid yn y system bleidleisio, a 96 o Aelodau yn y Senedd yn hytrach na 60. 

Siarad â’ch ymgeiswyr

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i gael sgyrsiau effeithiol a dylanwadol gydag ymgeiswyr seneddol a chanfaswyr yng Nghymru, boed hynny ar garreg eich drws, dros ebost neu mewn digwyddiadau hystings lleol. 

Cymerwch olwg ar ein canllaw i gael awgrymiadau am sgyrsiau a chyngor ar sut i siarad â chanfaswyr a gwirio'r wybodaeth.