News
New data reveals a quarter of protected areas in poor condition
Sharp declines in monitoring of Scotland’s most important sites for nature puts them at risk.
25th May 2026
Ynghyd âg Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Fforwm Ieuenctid Ymddiriedolaethau Natur Cymru a grwpiau Gwenoliaid Duon lleol, rydym yn galw arnoch chi, ein cefnogwyr, i ebostio'ch Aelodau'r Senedd i ofyn iddynt ddangos eu cefnogaeth dros Wenoliaid Duon yn y ddadl wythnos nesaf i gyflwyno gosod brics 'Swift' i'r holl adeiladau newydd yng Nghymru.
5 min read.jpg)
Disgwylir iddi gael ei chynnal yn y Siambr ar 1 Hydref, yn dilyn deiseb a lansiwyd gan Julia Barrell. Mae'n galw am ofyniad am frics ‘Swift’ - brics wedi'u gwneud yn arbennig gyda cheudodau ar gyfer adar sy'n nythu - i gael eu gosod ym mhob prosiect adeiladu newydd yng Nghymru, gan roi digon o gyfleoedd nythu addas i'r aderyn unigryw hwn. Cafodd y ddeiseb cefnogaeth aruthrol o'r cyhoedd gyda dros 10,000 o lofnodion i'w henw.
Mae pobl ar hyd a lled Cymru yn poeni am Wenoliaid Duon. Mae pobl wedi dod at ei gilydd mewn dinasoedd, trefi a phentrefi i weithredu, i adeiladu a gosod blychau nythu, i fonitro niferoedd, ac i godi ymwybyddiaeth. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny ar eu pen eu hunain. Mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wneud eu rhan. Nid brics Gwenoliaid Duon yw’r peth mwyaf y mae gofyn i’r llywodraeth ei wneud dros natur o bell ffordd, ond mae ymysg y symlaf a gallai helpu i sicrhau bod ein hawyr las yn llawn Gwenoliaid Duon yn sgrechian yn llon i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau”
Gwenoliaid Duon yw'r adar sydd â’r hediad gwastad cyflymaf ar y blaned - maen nhw'n gallu hedfan dros 100km yr awr. Maen nhw'n cysgu, bwyta, yfed a hyd yn oed yn paru wrth hedfan. Ac er eu bod yn treulio hanner eu hamser yng nghoedwigoedd glaw Affrica bob blwyddyn, maen nhw'n mudo i Hemisffer y Gogledd i nythu, dodwy wyau a magu eu cywion. Mae Gwenoliaid Duon bron bob amser yn defnyddio ceudodau (cavities) mewn adeiladau i nythu, yn aml iawn islaw llinell y to neu dan y teils. Mae adnewyddiadau’n golygu eu bod nhw’n ddigartref ac anaml y mae adeiladau newydd yn cynnig ceudodau artiffisial ag heb unman i fynd pan fyddant yn cyrraedd yma, mae eu niferoedd yn gostwng - yn gyflym.
Mae niferoedd y Gwenoliaid Duon wedi gostwng yn ddramatig yn ystod y 30 mlynedd diwethaf - gostyngiad o 76% yn eu poblogaeth ers 1995, gyda'r gostyngiad mwyaf yn ystod y degawd diwethaf. Ymhlith ffactorau eraill sy'n cyfrannu at y dirywiad dinistriol hwn mae colli safleoedd nythu - ac mae brics ‘Swift’ yn ffordd rad, hawdd ac anymwthiol o wrthdroi hyn.
Gall brics ‘Swift’ fod yr un lled â brics tŷ, wedi'u gweithgynhyrchu i safon BSI gyda cheudod nythu y tu ôl iddynt, a gallant gostio cyn lleied â £25. Gellir eu cynnwys yn hawdd mewn cynlluniau adeiladu, fel y dangoswyd gan nifer o gwmnïau adeiladu tai sydd eisoes wedi bod yn adeiladu eiddo ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae gan y brics un pwynt mynediad ac felly nid ydynt yn caniatáu i adar gael mynediad i'r adeiladau y maent yn rhan ohonynt.
Mae Fforwm Ieuenctid Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi ymuno â’r ymgyrch ac maen nhw’n benderfynol o sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed yn yr ymgais hon i wrthdroi ffyniant y Wennol Ddu yng Nghymru. Mae cymunedau hefyd wedi dod at ei gilydd mewn dinasoedd, trefi a phentrefi i weithredu, i adeiladu a gosod blychau nythu, i fonitro niferoedd, ac i godi ymwybyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys un deg pedwar o fudiadau cymunedol yng Nghymru sy'n rhan o Rwydwaith Lleol Gwenoliaid Duon y DU.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio dros adferiad y Wennol Ddu ers y 10 mlynedd diwethaf. Credwn fod gwneud briciau Gwenoliaid Duon yn angenrheidiol mewn adeiladau newydd yn fesur hanfodol wrth fynd i’r afael â dirywiad Gwenoliaid Duon ac atal eu diflaniad o’n cymunedau. Gan weithio gyda chymunedau lleol, mewn pentrefi a threfi ledled Gogledd Cymru, rydym wedi gweld y llawenydd y mae pobl yn ei gael gan Wenoliaid Duon. Byddai’r cynnig hwn yn gyfle i genedlaethau’r dyfodol brofi’r llawenydd hwnnw”
Anfonwch ebost at eich Aelod Senedd leol cyn 1 Hydref a gofynnwch am eu cefnogaeth ar gyfer Gwenoliaid Duon yn y ddadl yr wythnos nesaf. Gyda'n gilydd, gallwn hedfan fel un.