News

Tanau gwyllt, newid yn yr hinsawdd ac adfer natur: deall y darlun ehangach

Wrth i danau gwyllt ddod yn fwy cyffredin ledled Cymru, edrychwn ar yr hyn sy'n cynyddu'r perygl - a pham mae adfer cynefinoedd iach a gwydn yn rhan bwysig o'r ymateb.

5 min read
A man in fireproof clothing, working to extinguish a large patch of burning grass.
On this page

Mae tanau gwyllt yn dod yn olygfa fwyfwy cyfarwydd ledled Cymru a'r DU. Mae tanau diweddar wedi difrodi cynefinoedd pwysig, bygwth cymunedau lleol ac wedi rhoi pwysau cynyddol ar y Gwasanaethau Tân ac Achub a rheolwyr tir. Wrth i'r digwyddiadau hyn ddigwydd yn amlach, mae cwestiynau’n cael eu gofyn am beth sy'n achosi’r duedd a’r ffordd orau o leihau'r risg.

Newid yn yr Hinsawdd a Gweithgarwch Dynol

Cytunir yn gyffredinol fod newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r risg o danau gwyllt. Mae tywydd poethach, sychach a chyfnodau hirach heb law yn creu amodau lle mae llystyfiant yn fwy tebygol o losgi a thanau’n gallu lledaenu'n gyflym. Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod tymheredd cynyddol a chyfnodau amlach o wres eithafol yn cynyddu'r risg o danau gwyllt ledled y DU.

Mae tystiolaeth gref hefyd mai gweithgarwch dynol yw prif ffynhonnell tannau gwyllt. Gall tanau ddechrau yn ddamweiniol trwy daflu sigaréts, tanau gwersyll a barbeciw, neu yn fwriadol trwy losgi bwriadol a mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er bod newid yn yr hinsawdd yn cynyddu tebygolrwydd a difrifoldeb tanau, mae'r rhan fwyaf yn dal i gael eu dechrau a’ui hachosi gan bobl.

Mae cysylltiad agos rhwng y ffactorau hyn. Mae hinsawdd sy'n cynhesu yn creu amodau lle mae tanau yn lledaenu'n haws, tra bod pobl yn parhau i fod yn gyfrifol am ddechrau llawer ohonynt. Mae lleihau'r risg o danau gwyllt felly yn golygu atal tanau a gwella ein gallu i ymateb pan fydd tanau yn digwydd.

Edrych y Tu Hwnt i Lystyfiant

Gall faint a’r math o lystyfiant sy'n bresennol ddylanwadu ar sut mae tanau yn datblygu. Fodd bynnag, wrth ganolbwyntio ar lefelau llystyfiant yn unig mae perygl o or-symleiddio mater llawer mwy cymhleth.

Y cwestiwn allweddol yw nid yn unig faint o lystyfiant sy'n bodoli mewn tirwedd, ond a yw cynefinoedd yn iach, yn weithredol ac yn ddigon gwydn i ymdopi â sychder, gwres a phwysau amgylcheddol eraill. Gallai cael gwared ar lystyfiant er mwyn lleihau llwythi tanwydd, mewn rhai amgylchiadau, danseilio amcanion pwysig eraill fel adfer natur, storio carbon, cadw dŵr, iechyd pridd a rheoli llifogydd.

Pam fod cyflwr cynefin yn bwysig

Mae llawer o gynefinoedd Cymru wedi bod dan bwysau ers degawdau. Mae draenio, llygredd, darnio cynefinoedd a newidiadau mewn defnydd tir wedi gwanhau ecosystemau a lleihau eu gallu i gadw dŵr ac adfer ar ôl tywydd eithafol.

Mae cynefinoedd diraddiedig yn aml yn sychu'n gyflymach yn ystod cyfnodau hir o dywydd cynnes, gan gynyddu effaith ecolegol tanau ac, mewn rhai amgylchiadau, creu amodau sy'n caniatáu i danau ledaenu'n haws. Dyma lle gall adfer natur chwarae rhan bwysig.

Gall adfer mawndiroedd, gwlyptiroedd, gorlifdiroedd, glaswelltiroedd sy'n gyfoethog eu rhywogaethau a choetiroedd brodorol helpu tirweddau i gadw mwy o ddŵr a chynnal priddoedd iachach. Mae'r cynefinoedd hyn yn aml yn gallu gwrthsefyll cyfnodau hir o dywydd sych ac adfer ar ôl straen amgylcheddol.

Mae adfer mawndiroedd yn enghraifft dda. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tua 90% o fawndiroedd Cymru mewn cyflwr gwael. Mae ail-wlychu mawndiroedd diraddiedig yn adfer lefelau dŵr naturiol, gan helpu i leihau'r risg o danau mawn difrifol gan hefyd wella ansawdd dŵr, storio carbon a chefnogi bywyd gwyllt.  

Aerial view of rewetted area at RSPB Lake Vyrnwy Nature Reserve

Dull Cydgysylltiedig

Nid yw adfer cynefin yn unig yn ddigon. Mae atal tanau gwyllt yn effeithiol yn gofyn am wahanol fesurau, gan gynnwys rheolaeth dda o’r tir, ymddygiad cyfrifol yng nghefn gwlad a gweithredu wedi'i dargedu lle mae'r risgiau mwyaf. Mae hefyd yn gofyn am ddull cydgysylltiedig sy'n cynnwys Gwasanaethau Tân ac Achub, ffermwyr, sefydliadau cadwraeth, rheolwyr tir, cyrff cyhoeddus a chymunedau lleol.

Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol. Mae angen i bobl ddeall pa mor gyflym y gall tanau ddatblygu mewn amodau sych a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau fel tanau gwersyll, barbeciw a thaflu sigaréts. Pan fo ymddygiad anghyfrifol neu fwriadol yn achosi tanau, dylid sicrhau bod camau gorfodi effeithiol a chanlyniadau priodol.

Ar yr un pryd, rhaid i'r gwasanaethau brys a rheolwyr tir gael yr adnoddau, yr hyfforddiant a'r offer sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â thanau yn effeithiol, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ac ar dir uchel.

Yn y pen draw, ni ddylid ystyried hyn fel dewis rhwng rheoli tir ac adfer natur. Mae'r ddau yn hanfodol. Wrth i Gymru addasu i hinsawdd gynhesach sy’n anos ei ddarogan, dylai adfer natur fod yn rhan o ddull ehangach, cydgysylltiedig o ran gwytnwch tanau gwyllt, ochr yn ochr â rheolaeth dda o’r tir, ymwybyddiaeth y cyhoedd, ymddygiad cyfrifol, gorfodi effeithiol ac ymateb brys sydd ag adnoddau digonol. Gyda'i gilydd, gall y mesurau hyn helpu i amddiffyn pobl, bywyd gwyllt a'r tirweddau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.

Share this article