Y llynedd, roedd cannoedd ar filoedd o bobl sy'n caru byd natur wedi cymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd ledled y DU. Byddem wrth ein bodd petaech chi'n cymryd rhan eleni i'n helpu ni i ddeall sefyllfa ein hadar.
Advice
Cwestiynau Cyffredin am ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd
Mae’n hawdd cymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd. Dewiswch awr rhwng 26 a 28 Ionawr a chyfri’r adar a welwch yn eich gardd, o’ch balconi, neu yn eich parc lleol. Dim ond cyfri’r adar sy’n glanio. Yna dywedwch wrthym ni beth ydych chi wedi’i weld. Hyd yn oed os na welsoch chi unrhyw beth, mae’n dal i gyfrif.
On this page
English | Cymraeg
Byddwch yn barod i gadw llygad am adar
Mae cymryd rhan yn hollol syml
Allwn ni helpu?
Ddim yn siŵr o rywbeth? Edrychwch ar y cwestiynau cyffredin:
Sut mae cymryd rhan
Pam na alla i fewngofnodi i fy nghyfrif?
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i greu edrychiad sy’n cyd-fynd â’n brand newydd, gan wneud yn siŵr eich bod chi’n gallu dod o hyd i’r newyddion, yr wybodaeth a’r canllawiau sy’n bwysig i chi, a’u defnyddio’n hawdd. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw rhai swyddogaethau'n barod eto, gan gynnwys y gallu i fewngofnodi i'ch cyfrif a gweld canlyniadau blaenorol. Rydyn ni’n gobeithio na fydd hyn yn tynnu oddi ar eich Profiad Gwylio Adar yr Ardd!
Oes rhaid i mi fod yn aelod o RSPB neu roi arian i'r RSPB i gymryd rhan?
Nac oes. Mae Gwylio Adar yr Ardd yn addas i bawb ac mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw treulio awr rhwng dydd Gwener 24 i ddydd Sul 26 Ionawr yn cyfri'r adar a welwch chi yn eich gardd. eich parc lleol neu o'ch balconi a dweud wrthyn ni beth welsoch chi.
Allwn ni gymryd rhan fel grŵp?
Gallwch ddod at eich gilydd gyda ffrindiau neu deulu i gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd a chyfri'r adar a welwch chi gyda'ch gilydd. Serch hynny, dim ond un set o ganlyniadau dylech chi eu rhoi i ni. Os bydd mwy nag un aelod o'r grŵp yn cyflwyno canlyniadau, byddai hynny'n golygu bod gennym ni fwy nag un set o'r un canlyniadau.
Serch hynny, os yw pob aelod o'ch grŵp yn bwriadu Gwylio Adar yr Ardd ar wahan mewn lleoliadau gwahanol, yna byddai angen i chi ychwanegu canlyniadau ar wahan.
Oes ots pa adeg o'r dydd byddaf yn Gwylio Adar yr Ardd?
Nac oes. Efallai bydd yr adeg o'r dydd byddwch chi'n Gwylio Adar yr Ardd yn effeithio ar niferoedd ac amrywiaeth yr adar a welwch chi, and fydd hynny ddim yn effeithio ar y canlyniadau cyffredinol. Y rheswm am hynny yw bod cynifer o bobl yn cyfri adar ar wahanol adegau dros y tri diwrnod. Mae pobl yn gofyn ni am bethau fel bwyd a'r tywydd hefyd, and oherwydd bod y canlyniadau'n seiliedig ar wybodaeth gan gynifer o bobl yn Gwylio Adar yr Ardd, bydd effeithiau bwyd, tywydd ac adeg o'r dydd yn canslo ei gilydd allan - anhygoel dydy!
Ydw i'n cael cymryd rhan yn Gwylio Adar am y tri diwrnod?
Ydych ac nac ydych! I gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd, rydyn ni'n gofyn i chi dreulio awr yn cyfri'r adar rydych chi'n eu gweld mewn un lleoliad - o'ch gardd, o'ch balconi neu yn eich parc lleol. Dim and un sesiwn Gwylio Adar i bob person/fesul lleoliad y gallwn ni ei dderbyn. Os ydych chi eisiau Gwylio Adar fwy nag unwaith dros y penwythnos, gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud hynny o leoliad gwahanol. Cofiwch ychwanegu lleoliad eich sesiwn Gwylio Adar wrth roi eich canlyniadau.
Pam mai dim ond dros un penwythnos mae Gwylio Adar yr Ardd yn cael ei gynnal?
Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhoi cipolwg mewn amser o sefyllfa adar yr ardd yn y DU. Mae'n cael ei gynnal tua'r un pryd bob blwyddyn er mwyn i ni allu cymharu'r canlyniadau a blynyddoedd blaenorol. Mae nifer yr adar sy'n ymweld a gerddi a pharciau yn amrywio drwy gydol y flwyddyn, felly mae'n well bod pawb yn cyfri dros yr un penwythnos hir. Eleni, bydd y Gwylio Adar yr cael ei gynnal rhwng dydd Gwener 24 i ddydd Sul 26 Ionawr.
Pam mae Gwylio Adar yr Ardd yn y gaeaf?
Oherwydd dyma'r adeg o'r flwyddyn mae adar yr ardd ein hangen ni fwyaf - os yw'n oer iawn, mae'n fwy tebygol y daw adar i'n gerddi i chwilio am gysgod a bwyd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws cyfri'r adar. Oherwydd bod Gwylio Adar yr Ardd yn digwydd yr un pryd bob blwyddyn, gallwn ni edrych yn ôl dros y blynyddoedd i weld a oes unrhyw beth wedi newid.
Beth am y tywydd? A fydd hyn yn effeithio ar Gwylio Adar yr Ardd?
Mae Gwylio Adar yr Ardd yn gofyn i bobl o bob cwr o'r DU gyfri'r adar maen nhw'n eu gweld. Gan fod y DU yn ardal mor fawr, mae'n debygol y bydd y tywydd yn amrywio o le i le. Gallai fod yn glawio mewn un lle, yn heulog yn rhywle arall, a gallai fod rhew yn rhywle arall. Serch hynny, oherwydd bod cynifer o bobl yn cyfri adar o gynifer o wahanol leoedd, mae'n debyg y bydd unrhyw effeithiau'n canslo ei gilydd allan. Hefyd, gan fod Gwylio Adar yr Ardd yn digwydd dros fwy nag un diwrnod, mae'n ein helpu i sicrhau ein bod yn cael cipolwg da o sut mae adar yn ymdopi.
Cwestiynau am y canllaw
Sut mae cael canllaw Gwylio Adar yr Ardd?
Gallwch gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd drwy gyfri'r adar sy'n glanio yn eich gardd a mynd ar-lein i ddweud wrthym beth welsoch chi. Serch hynny, rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n well gan rai pobl ddefnyddio canllaw, a gallwch chi gofrestru i gael eich canllaw chi nawr. Edrychwch ar y canllaw cyn argraffu, oherwydd efallai na fydd angen i chi ei argraffu. Mae pob darn o bapur sy'n cael ei arbed yn well i natur! Fel arall, gallwn ni bostio canllaw wedi'i argraffu atoch os bydd rhai ar ol - llenwch ein ffurflen gofrestru i gael eich copi.
Dydy fy nghanllaw i heb gyrraedd - beth ddylwn i ei wneud?
Byddwn yn dechrau anfon canllawiau ddechrau mis lonawr. Mae'n ddrwg iawn gennym os na fyddwch chi'n cael eich un chi mewn da bryd ar gyfer penwythnos Gwylio Adar yr Ardd. Serch hynny, gallwch ddal gymryd rhan ar-lein. Os yw'n well gennych chi ddefnyddio canllaw, gallwch lawrlwytho un drwy defnyddio drwy ddefnyddio'r dolenni isod. Edrychwch ar y canllaw cyn argraffu, oherwydd efallai na fydd angen i chi ei argraffu. Mae pob darn o bapur sy'n cael ei arbed yn well i natur!
Pam gafodd fy ffrind/aelod o'r teulu wybodaeth am Gwylio Adar yr Ardd heb gofrestru, ond ches i ddim?
Rydyn ni'n awyddus bod croeso i bawb gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd. Weithiau, byddwn yn anfon negeseuon atgoffa at bobl sydd wedi cymryd rhan o'r blaen. Pan fyddwch chi'n cofrestru i gymryd rhan, os byddwch chi'n dewis cael ein negeseuon e-bost, byddwn yn gallu anfon y newyddion diweddaraf atoch chi am Gwylio Adar yr Ardd, a'ch atgoffa chi pan fydd yn digwydd flwyddyn nesaf.
Rhoi gwybod beth welsoch chi
Pryd fydd angen i mi anfon fy nghanlyniadau atoch?
Dywedwch wrthym beth welsoch chi yn rspb.org.uk/gwylioadar cyn 23 Chwefror. Drwy roi eich canlyniadau ar-lein, rydych chi'n ein helpu ni i wario mwy ar achub natur gan fod hyn yn lleihau ein costau - ac mae'n arbed costau postio a phapur. Fodd bynnag, os yw'n well gennych anfon eich canlyniadau atom drwy'r post, gallwch argraffu a llenwi'r ffurflen sydd yn y canllaw a'i hanfon yn ôl atom erbyn 18 Chwefror. Darllenwch y canllaw cyn ei argraffu, oherwydd mae'n bosib nad oes angen i chi ei argraffu i gyd. Mae pob darn o bapur sy'n cael ei arbed yn well i natur!
Ydw i'n cael anfon fy nghanlyniad drwy'r post yn hytrach nag ar-lein?
Y ffordd hawsaf o ddweud wrthym beth welsoch chi yw drwy ychwanegu eich canlyniadau ar-lein yn rspb.org.uk/gwylioadar. Mae hyn yn ein helpu i wario mwy ar natur gan ei fod yn lleihau ein costau - ac mae'n arbed costau postio a phapur. Serch hynny, os yw'n well gennych chi bostio eich canlyniadau atom, gallwch argraffu a llenwi'r ffurflen sydd yn y canllaw a'i hanfon yn ôl atom erbyn 18 Chwefror. Edrychwch ar y canllaw cyn argraffu, oherwydd efallai na fydd angen i chi ei argraffu i gyd. Mae pob darn o bapur sy'n cael ei arbed yn well i natur!
Pam na alla i weld fy nghanlyniadau o flynyddoedd blaenorol?
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i greu edrychiad sy’n cyd-fynd â’n brand newydd, gan wneud yn siŵr eich bod chi’n gallu dod o hyd i’r newyddion, yr wybodaeth a’r canllawiau sy’n bwysig i chi, a’u defnyddio’n hawdd. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw rhai swyddogaethau'n barod eto, gan gynnwys y gallu i fewngofnodi i'ch cyfrif a gweld canlyniadau blaenorol. Rydyn ni wedi cadw eich canlyniadau’n ddiogel ac rydyn ni’n gobeithio eu dangos nhw i chi yn y dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio na fydd hyn yn tynnu oddi ar eich Profiad Gwylio Adar yr Ardd!
Does dim llun o'r aderyn welais i yn y canllaw neu nid yw wedi'i restru ar y ffurflen ganlyniadau - beth ddylwn i ei wneud?
Yn anffodus, nid oes gennym lawer o le ar y canllaw papur ac mae'r rhestr o rywogaethau y gallai pobl eu gweld yn y DU yn enfawr! Serch hynny, gallwch chi gynnwys adar eraill a welwch chi yn y blwch testun rhydd ar y ffurflen neu, yn well byth, ewch ar-lein i ychwanegu eich canlyniadau lle mae gennym restr hirach o lawer o adar ar gael. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed am yr adar rydych chi wedi'u gweld - ac rydyn ni'n adolygu'r adar sydd wedi'u cynnwys ar y canllawiau bob blwyddyn.
Canllaw am ddim a siart adnabod
Adar o bryder cadwraethol
Mae Rhestr Goch y DU ar gyfer Adar yn cadw golwg ar dueddiadau poblogaeth mewn 245 o rywogaethau, gyda’r adar sydd wedi’u rhestru fel ‘Coch’ yn cael eu hystyried mewn perygl. Yn 2021, cafodd y Llinos Werdd ei hychwanegu at y Rhestr Goch am y tro cyntaf.
Yn ôl yn 1979, pan ddechreuodd Gwylio Adar yr Ardd, roedd y Llinos Werdd yn rhif saith, ond erbyn 2023 roedd yn safle 18. Mae hyn yn dangos dirywiad dinistriol ym mhoblogaeth y llinosod bach hardd hyn oherwydd clefyd o’r enw trichomonosis. Rydyn ni’n gwybod bod hyn yn effeithio ar Ji-bincod hefyd.
Gallwch chi helpu i atal y clefyd hwn rhag lledaenu drwy gael gwared ar hen fwyd a glanhau eich byrddau adar, baddonau adar a theclynnau bwydo adar bob wythnos. Edrychwch yma i gael arweiniad ar lanhau teclynnau bwydo i'ch cadw chi a'ch adar gardd yn ddiogel.