Advice

Sut i ysgrifennu ymateb effeithiol i gais cynllunio

Wrth ysgrifennu ymateb, mae rhai awgrymiadau syml a fydd yn helpu i gyfleu eich pwyntiau.

Hairy-footed Flower Bee, individual feeding on cowslip
On this page

Ar ôl darganfod cais newydd ar gyfer datblygiad arfaethedig yn eich ardal, efallai y byddwch am fynegi eich pryderon neu ofyn am newidiadau i sicrhau ei fod yn well i fyd natur. Yn y canllaw hwn, rydyn ni’n rhannu’r ffyrdd mwyaf effeithiol o eiriol dros natur a bywyd gwyllt drwy ymateb ysgrifenedig.

Y Pethau i’w Gwneud

Awgrymiadau hanfodol ar gyfer ymatebion ysgrifenedig:

  • Bod yn glir bob amser ynghylch yr hyn yr ydych yn ymateb iddo. Er enghraifft, os bu i chi golli gyfle i roi sylwadau ar gais amlinellol ar gyfer datblygiad, cyfyngir cwmpas unrhyw sylwadau ar y cais dilynol ‘materion a gedwir yn ôl’ i gynllun a dyluniad manwl y datblygiad yn unig, nid yr egwyddor ohono, hy a yw math/raddfa’r datblygiad yn dderbyniol yn y lleoliad hwn.

Holwch a yw’r safle wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygu yn eich cynllun lleol/cynllun datblygu lleol – os yw wedi’i ddyrannu felly, bydd yn anoddach gwrthwynebu gan y cytunwyd eisoes ar yr egwyddor.” -Hyrwyddwr natur lleol

  • Nodi’n glir a ydych chi’n gwrthwynebu, yn cefnogi neu’n gwneud sylwadau ar y cynnig. Cynhwyswch y geiriau ‘Rwyf i/Rydyn ni’n gwrthwynebu’, ‘Rwyf i/Rydyn ni’n cefnogi’ ayb yn amlwg yn eich ymateb, bydd hyn yn osgoi unrhyw amheuaeth.
  • Sicrhau eich bod yn ymateb cyn dyddiad cau’r ymgynghoriad. Fodd bynnag, os yw'r dyddiad cau wedi mynd heibio ac nad yw’r cais wedi’i benderfynu eto, mae bob amser yn werth gofyn i’r Swyddog Cynllunio (neu aelodau’r pwyllgor os yw’r achos yn mynd i gael ei drafod yn y pwyllgor cynllunio) a ydynt yn barod i dderbyn sylwadau hwyr.
A Greenfinch perched on a leaf covered branch.
  • Osgoi jargon diangen neu iaith rhy dechnegol. Gall hyn hefyd helpu aelodau eraill o’r cyhoedd sy’n darllen eich ymateb, a allai fod eisiau cefnogi eich pryderon yn eu sylwadau eu hunain.
  • Bod yn glir ac yn gryno. Fodd bynnag, os oes angen sylwadau mwy hirfaith, bydd cynnwys crynodeb byr ychwanegol yn ddefnyddiol i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad. Gellir hefyd atodi adroddiadau, cofnodion neu dystiolaeth ategol arall fel atodiadau.

Wrth wneud sylwadau ar gynnig cynllunio, peidiwch â gorlwytho eich cyflwyniad gyda data/dolenni gwefannau ac ati – mae swyddogion cynllunio/cynghorwyr yn bobl brysur. Dydyn nhw ddim eisiau cael eu llethu gan wybodaeth. Cadwch bethau’n gryno” -Jim, Cleethorpes, hyrwyddwr natur lleol

  • Sicrhau ei fod yn berthnasol.  Cynnwys gwybodaeth sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r cynnig neu ei effeithiau yn unig. Canolbwyntio ar faterion sy’n gysylltiedig â chynllunio (a elwir yn ‘ystyriaethau perthnasol’) ac sy’n debygol o gael y pwysau mwyaf gan y sawl sy’n gwneud y penderfyniad. Dysgwch fwy am ystyriaethau materol ac egwyddor pwysau wrth wneud penderfyniadau cynllunio yn ein canllawiau i’r gwledydd Deall cynllunio
Smooth Snake coiled up
Smooth Snake
Cofiwch

Un o egwyddorion allweddol y system gynllunio yw bod yn rhaid i bob cais gael ei farnu ar ei haeddiant ei hun gan y sawl sy’n gwneud y penderfyniad.

  • Peidiwch ag ofni dangos eich angerdd, ond byddwch yn barchus bob amser. Cofiwch eich bod yn ‘siarad’ â’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad, nid y datblygwr.
  • Dilyn cynllun clir a threfnus. Defnyddiwch bwyntiau bwled, penawdau adrannau a fformatio testun i helpu i roi strwythur a ffocws i'ch pwyntiau allweddol.

Strwythur ymateb enghreifftiol

  1. Nodwch yr achos yr ydych yn ymateb iddo, gan ddefnyddio cyfeirnod yr awdurdod lleol
  2. Nodwch eich safbwynt (ee “Rwy’n gwrthwynebu’r cais hwn”)
  3. Rhowch eich rhesymau (os oes mwy nag un, rhestrwch y rhain yn glir gan ddefnyddio rhifau neu bwyntiau bwled)
  4. Rhowch eich tystiolaeth ategol (ewch drwy bob un o’ch rhesymau yn eu tro, gan ddefnyddio strwythur clir)
  5. Dywedwch beth yr ydych am i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad ei wneud (ee gwrthod y cais, ceisio addasu’r cynigion gyda mesurau lliniaru, neu gymeradwyo’r cais gydag amodau)
  6. Ystyriwch gynnig eich safbwynt ‘wrth gefn’, heb ragfarn i’ch safbwynt cyffredinol (ee a allech ofyn i’r awdurdod lleol ychwanegu amod sy’n rheoli agwedd benodol ar y datblygiad, os ydynt yn bwriadu cymeradwyo’r cais dros eich gwrthwynebiadau?)

Peidiwch â gwrthwynebu’n unig – lle bynnag y bo’n bosibl, darparwch opsiwn arall neu ddull lliniaru.” -Hyrwyddwr natur lleol

Y Pethau na Ddylid eu Gwneud

A rhai pethau i geisio eu hosgoi:

  • Osgoi beirniadaeth bersonol. Ceisiwch osgoi enwi unigolion, yn hytrach defnyddiwch dermau mwy cyffredinol fel ‘y Cyngor’ neu ‘yr ymgeisydd’ ayb. A dylech bob amser osgoi’r demtasiwn i roi barn ar ymddygiad yr ymgeisydd (neu’r parti arall), ei gymeriad na’i enw da. Nid yw’r rhain yn ffactorau y bydd y sawl sy’n penderfynu yn gallu eu hystyried, a thrwy eu codi, mae perygl y byddwch yn tynnu oddi wrth bryderon eraill mwy perthnasol.
  • Ymdrin ag ef y tu allan. Os oes gennych gŵyn yn erbyn y ffordd y mae’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad wedi delio â’r achos (er enghraifft, nid ydynt wedi ymgynghori â chi fel cymydog agos) yna deliwch â hyn ar wahân, drwy’r sianelau cywir, yn hytrach nag yn eich ymateb i’r cais.
A Dunnock on its nest feeding hungry chicks.
  • Osgoi achlust. Mae’n well peidio â chynnwys unrhyw wybodaeth rydych chi’n ansicr yn ei chylch neu na allwch ei hategu â thystiolaeth, ac yn sicr dylid osgoi gorliwio eich pryderon.
  • Dim GWEIDDI, os gwelwch yn dda!! Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n ddig am y cynnig dan sylw, ceisiwch osgoi priflythrennau ac ebychnodau yn eich ymateb. Bydd tôn fwy pwyllog a phroffesiynol yn cyfleu eich pwyntiau’n fwy effeithiol.

Cadwch ddicter ac emosiwn allan o’ch ymatebion – cadwch at y ffeithiau gan fod y math o bobl rydych chi’n delio â nhw (Pwyllgorau Cynllunio ac ati) yn gweithio fel hynny. Gallwch ddefnyddio eich emosiynau ar gyfer yr ochr ymgyrchu.” -Hyrwyddwr natur lleol