Advice

Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych chi gwestiynau am Goetir Coffa Llyn Efyrnwy, gobeithio y gallwch ddod o hyd i’r ateb yma. Os ddim, cysylltwch â ni. 

A view through the treeline and across the lake.
On this page

Beth yw “Efyrnwy am Byth”?

Yn llechu mewn cwm ym mhen gogleddol Llyn Efyrnwy a gerllaw rhaeadr rhyfeddol Pistyll Rhiwargor, mae Efyrnwy am Byth yn lle arbennig i dalu teyrnged i’ch anwylyd ac i dreulio rhywfaint o amser yn hel atgofion. Caiff pob coeden ei phlannu er cof am anwylyd neu i ddathlu achlysur arbennig, ac ymhen amser bydd y coed yn cyd-dyfu i greu cartref gwych i fyd natur.

Beth sy’n rhan o fy nghyfraniad?

Caiff coeden a dyfwyd yn lleol ei phlannu mewn cae neu ffridd ger pen gogleddol y llyn, gyferbyn â’r llwybr trawiadol sy’n arwain at raeadr ysblennydd Pistyll Rhiwargor. Mae gwarant o 10 mlynedd ar y goeden ac fe gynhelir arolwg blynyddol, gwaith chwynnu, ac adnewyddu’r goeden lle bo angen.

Gallwch ddewis o blith chwech o rywogaethau coed brodorol a fydd tua metr o daldra adeg eu plannu, yn ddibynnol ar y rhywogaeth.

Caiff tag llechen Gymreig ei osod ar y ffens sy’n gwarchod goeden, ac fe gewch chi’r opsiwn o gael cofrodd llechen ychwanegol gyda chyfeirnod grid unigryw’r goeden arni i fynd adref gyda chi.

Gallwch ymweld â’ch coeden yn hedd Coedwig Goffa Llyn Efyrnwy mor aml ag y mynnwch – ar eich pen eich hun neu gydag eraill.

Pa fath o goeden alla i ei dewis?

Mae’r opsiynau canlynol ar gael, yn ddibynnol ar yr adeg o’r flwyddyn ac a yw’r coed ar gael. Cysylltwch â’n tîm yn Llyn Efyrnwy i weld pa goeden frodorol a fydd orau i chi.

  • Derwen Ddigoes – mae rhywogaeth frodorol hynafol  y dderwen yn cynnal mwy o fywyd gwyllt nag unrhyw goeden arall yn Ynysoedd Prydain. Mae’n gynefin i gannoedd o rywogaethau o bryfed, adar a sawl math o fwsog, llysiau’r afu, cennau, a mwy.
  • Bedwen Lwyd – coeden arloesol sy’n gymorth i goed arafach eu twf wrth greu coetir. Gall y goeden hon dyfu mewn priddoedd sâl ac mae’n cynnal ystod amrywiol o fywyd gwyllt.
  • Aethnen – coeden sy’n adnabyddus am ei dail symudliw nodedig, sydd fel llwy arian. Ceir hyd i’r Aethnen mewn coetiroedd hynafol ac mae’n ased gwerthfawr i warchodfeydd natur ac yn goeden y mae afancod yn hoff iawn ohoni.
  • Draenen Wen – coeden sy’n llawn bywyd gwyllt – o bryfed i adar. Gall gynnal 300 rhywogaeth o bryfed a darparu neithdar a phaill ar gyfer pryfed peillio eraill. Mae’r aeron coch yn llawn gwrthocsidyddion ac fe’u bwyteir gan adar sy’n ymfudo, fel y Coch Dan Adain, y Socan Eira a’r Fronfraith, yn ogystal â mamaliaid bychain.
  • Cerddinen – coeden eiconig a geir ar y gweunydd, ac a elwir hefyd yn Griafolen. Mae’r aeron llachar yn fwyd i’r adar ac, yn ôl cyfoeth o lên gwerin, maent yn eich amddiffyn rhag niwed (a hyd yn oed rhag dewiniaeth!)
  • Masarnen – coeden gollddail hiroesol sy’n tyfu’n gyflym. Mae wedi’i gorchuddio dail llydan sy’n cynnig cysgod, bwyd a chynefin i amrywiaeth o rywogaethau gwahanol – gan gynnwys adar, mamaliaid, pryfed a ffyngau.
  • Coeden Afalau Surion – coeden bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, gyda’i blodau yn y gwanwyn a’i ffrwythau yn yr hydref. Mae coed afalau surion hefyd yn cefnogi amrywiaeth o gennau pwysig ac maent yn bwysig iawn ar gyfer peillwyr. 
  • Ceiriosen Ddu – mae’r Geiriosen Ddu yn un o’n coed brodorol tlysaf. Gall dyfu i fod cyn daled â 30m a byw am 60 mlynedd. Mae ei ffrwythau’n ffynhonnell fwyd hanfodol ar gyfer y fronfraith a’r pathew. 
  • Pisgwydden Dail Mawr – y brinnaf o’n coed pisgwydd brodorol. Mae dail y Bisgwydden Dail Mawr yn ffynhonnell fwyd hollbwysig ar gyfer lindys a phryfed eraill, fel y pryf glas. O ganlyniad, mae hon yn goeden wych i ddarparu ysglyfaethau ar gyfer adar a’r fuwch goch gota.
  • Oestrwydden – gall yr Oestrwydden gadarn fyw am hyd at 300 o flynyddoedd, a thrwy ddal gafael ar ei dail brown drwy gydol y gaeaf, mae’n darparu lloches werthfawr i fywyd gwyllt. Mae ffrwythau a hadau’r Oestrwydden yn ffynhonnell fwyd bwysig ar gyfer amrywiaeth eang o anifeiliaid yn ystod yr hydref a’r gaeaf, gan gynnwys adar a mamaliaid bach. 

Byddwn yn eich helpu i ddewis coeden sy’n addas ar gyfer y lleoliad.

Oes rhaid i mi ddewis y tag llechen a’r gofrodd?

Nac oes. Mae croeso i chi beidio â chymryd y rhain; bydd gennym gofnod o union leoliad eich coeden chi.

Ydw i’n gallu dewis dyddiad ar gyfer plannu fy nghoeden?

Gallwch drafod eich gofynion penodol ag aelod o’n tîm. Byddwn yn siŵr o wneud ein gorau i fwrw ymlaen yn unol â’ch dymuniadau.

Ydych chi’n plannu coed drwy gydol y flwyddyn?

Rydym yn argymell plannu’r goeden rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth, os yw’r tywydd yn addas. Mae llwyddiant plannu coed y tu allan i’r cyfnod hwn yn ddibynnol ar ba un a yw cyflwr y tir yn addas ai peidio. Nid ydym yn tueddu i blannu coed rhwng mis Mai a mis Tachwedd gan fod y tir yn gallu bod yn rhy sych, a gall hynny amharu ar dwf y goeden.

Ydw i’n cael dewis ymhle y caiff y goeden ei phlannu?

Y peth gorau i’w wneud yw trafod hyn gydag aelod o’r tîm. Mae’r rhan fwyaf o leoliadau yn addas ar gyfer pob un o’r rhywogaeth, ond rydym am sicrhau y dewisir lleoliad addas ar gyfer eich coeden.

Beth os nad ydw i’n gallu bod yn bresennol adeg plannu’r goeden?

Byddwn yn cydweithio â chi i bennu dyddiad sy’n gyfleus i chi. Fodd bynnag, os na allwch ymuno â ni ar gyfer y plannu, fe wnawn ni anfon llun o’r goeden, ei rhif unigryw a’i lleoliad atoch dros ebost. Byddwn yn gosod tag ar eich coeden/rheilen warchod ac yn postio’r gofrodd atoch.

Sut ydw i’n mynd ati i gyfrannu?

Gallwch gyfrannu drwy gysylltu ag Anya Hickman. Bydd Anya, ein Rheolwr Swyddfa yn Llyn Efyrnwy, yn eich tywys drwy’r broses – o’ch ymholiad cyntaf hyd at blannu coeden o’ch dewis. Gallwch gysylltu ag Anya drwy ffonio 01691 870278 neu anfon ebost at vyrnwyforever@rspb.org.uk

Sut fyddwch chi’n defnyddio fy nghyfraniad?

Bydd yr holl arian a gyfrannwch yn mynd tuag at waith yr RSPB yn Llyn Efyrnwy i greu gwell cyfleoedd i natur ffynnu, i helpu i adfer cynefinoedd, ac i wella bioamrywiaeth a gwytnwch o ran yr hinsawdd.

Ydw i’n cael gwasgaru llwch anwyliaid yn y goedwig?

Mae Llyn Efyrnwy yn ddalgylch dŵr yfed glân sy’n cyflenwi dinas Lerpwl, felly ni allwn ganiatáu i chi wasgaru llwch.

Ydw i’n cael plannu blodau ger y goeden?

Oherwydd sensitifrwydd y cynefinoedd a’r rhywogaethau yn ardal Llyn Efyrnwy, nid ydym yn caniatáu i chi blannu blodau adeg plannu’r goeden nac ar ôl hynny.

Ydw i’n cael gadael tusw o flodau neu deyrngedau eraill ger y goeden?

Mae Efyrnwy am Byth yn lleoliad naturiol a gaiff ei reoli mewn modd sy’n cynnal bywyd gwyllt Llyn Efyrnwy. Er mwyn diogelu’r safle, nid ydym yn caniatáu i bobl adael unrhyw deyrngedau – gan gynnwys blodau – ger y coed, a bydd rhaid i ni waredu unrhyw rai a ddown ar eu traws. Cynigir tag llechen wedi ei osod ar y rheilen sy’n gwarchod y goeden ynghyd â’r opsiwn ychwanegol o gael cofrodd llechen gyda chyfeirnod grid unigryw’r goeden i fynd adref gyda chi.

A fydd plac yn cael ei osod ger y goeden?

Gan fod Llyn Efyrnwy yn ardal wyllt naturiol, nid ydym yn defnyddio placiau metel traddodiadol. Yn lle hynny, cewch gynnig gosod tag llechen ar y rheilen sy’n gwarchod y goeden.

Beth os bydd y goeden rwyf wedi ei phlannu’n marw?

Mae gwarant o 10 mlynedd ar gyfer pob coeden. Os bydd y goeden yn marw, sy’n annhebygol o ddigwydd, cewch goeden newydd yn ei lle, am ddim.

Sut y caiff yr ardal ei rheoli?

Ni fyddwn yn tacluso’r ardal o gwmpas y coed, y tu hwnt i waith chwynnu blynyddol o fewn ffiniau’r ffensys sy’n gwarchod y coed wrth i’r coed ymsefydlu. Mae’r rhain yn ardaloedd gwyllt lle rydym yn defnyddio pori cadwraethol i reoli cynefinoedd. Bydd croeso i chi grwydro o gwmpas yr ardaloedd lle mae coed wedi’u plannu.

Beth fydd yn digwydd pan fydd y goedwig yn llawn?

Os byddwn yn cyrraedd y capasiti a argymhellir ar gyfer plannu coed, byddwn yn archwilio opsiynau i ddatblygu ardaloedd eraill lle gallwn blannu coed ger Llyn Efyrnwy. Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran creu coridorau cynefinoedd.

Pa mor dal fydd y goeden adeg ei phlannu?

Bydd y goeden tua metr o daldra (yn ddibynnol ar y rhywogaeth) pan gaiff ei phlannu.

Nid wyf yn aelod o’r RSPB, ydy hyn yn gwneud gwahaniaeth?

Nac ydy. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o’r RSPB er mwyn plannu coeden yn Efyrnwy am Byth.