
Gall gymryd peth amser i gael gwybodaeth drwy’r llwybr FOI neu EIR – fel arfer mae angen i awdurdodau cyhoeddus ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, ond efallai y bydd angen mwy o amser arnynt. Dylai unrhyw wybodaeth a asesir fel rhan o’r broses ceisiadau cynllunio fod ar gael i’r cyhoedd ar wefan yr awdurdod cynllunio. Os na allwch ddod o hyd i ddogfen benodol, gofynnwch i’r Swyddog Cynllunio sy’n delio â’r achos yn y lle cyntaf cyn cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth neu EIR.


