Os nad oes dynodiad ar hyn o bryd, ond eich bod yn credu bod y safle’n werthfawr iawn ar gyfer bywyd gwyllt neu fuddiannau cadwraeth eraill, yna gallwch geisio lobïo dros ei warchod. Cofiwch, fodd bynnag, nad yw llwyddo i ddynodi safle fel arfer yn broses gyflym neu hawdd a bydd angen i chi allu dangos yn glir bod y safle’n bodloni’r meini prawf perthnasol ar gyfer dynodiad safle statudol neu anstatudol (lleol).
I ddechrau, bydd angen tystiolaeth o ansawdd da sydd wedi’i chasglu’n wyddonol o’r rhywogaeth neu’r nodweddion arbennig eraill sy’n bresennol ar y safle. Yn ddelfrydol, bydd angen cefnogaeth gref arnoch hefyd gan sefydliadau bywyd gwyllt lleol a’r Ecolegydd neu’r Swyddog Bioamrywiaeth lleol (os oes un) yn yr awdurdod lleol. Mae dynodiadau cenedlaethol gan gynnwys SoDdGA/ASSI yn gyfrifoldeb i’r cyrff cadwraeth natur statudol (hy Natural England, NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon), tra mai’r awdurdod lleol perthnasol yn gyffredinol sy’n gyfrifol am ddynodiadau lleol.
Mae hefyd yn syniad da siarad â’r tirfeddiannwr os ydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw. Cofiwch y bydd angen caniatâd y tirfeddiannwr arnoch os ydych yn dymuno cynnal arolygon bywyd gwyllt ar eu tir oddi wrth lwybrau troed cyhoeddus neu fannau mynediad eraill a ganiateir.